26 Hydref 2016

 

Annwyl Gyfaill

Adolygiad o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru: Gweithredu

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn craffu ar y gwaith o weithredu Adolygiad yr Athro Graham Donaldson, sef Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru.

 

Yn y cynllun gweithredu, ‘Cwricwlwm i Gymru – cwricwlwm am oes’  nodwyd mai’r nod oedd i’r cwricwlwm newydd fod ar gael erbyn 2018 ac iddo gael ei gyflwyno’n llawn yn 2021. Drwy gydol y broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd bydd y Pwyllgor, felly, yn monitro hynt y gwaith yn rheolaidd.

 

Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed gan randdeiliaid allweddol i’w helpu i graffu ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi argymhellion yr adolygiad ar waith. Byddai’r Pwyllgor yn hoffi clywed am y canlynol yn benodol:

 

 

Bydd y Pwyllgor hefyd yn cymryd tystiolaeth lafar gan nifer o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys yr Athro Donaldson. I’n helpu gyda’r gwaith hwn, byddwn yn ddiolchgar pe baech yn anfon eich ymatebion i’r pwyntiau uchod erbyn 11 Tachwedd 2016.

Yn gywir,

Lynne Neagle AC / AM
Cadeirydd / Chair